Fe fydd busnesau preifat yn colli wrth i Lywodraeth Cymru orfod torri ar gytundebau, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.
Mae’r rheiny werth £4.5 biliwn y flwyddyn, ond fe fyddan nhw’n lleihau oherwydd y toriadau mewn gwario cyhoeddus, meddai Ieuan Wyn Jones wrth y BBC.
Roedd yn ymateb i’r adroddiad gan y cyfrifwyr, Price Waterhouse Cooper, yn proffwydo y gallai Cymru golli cymaint â 52,000 o swyddi oherwydd y toriadau.
Fe apeliodd Ieuan Wyn Jones unwaith eto am i’r Llywodraeth yn Llundain oedi gyda rhai o’r toriadau – roedd angen cwtogi, meddai, ond fe fyddai torri llym a chyflym yn effeithio’n waeth ar ardaloedd fel Cymru, sy’n dibynnu mwy ar wario cyhoeddus.
Bourne yn addo ymladd
Yn y cyfamser, mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru wedi addo y bydd yn ymladd toriadau sy’n effeithio’n annheg ar Gymru.
“Lle mae toriadau mewn rhaglenni sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig i gyd yr un peth… does dim problem o ran cydraddoldeb,” meddai Nick Bourne.
“Os oes materion sydd â dimensiwn arbennig o Gymreig fel S4C neu’r swyddfa basbort, mae’n gwbl glir y byddwn ni’n brwydro dros fuddiannau Cymreig ac er budd Cymru.”
Llun: Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru0