“Fe ddylai pob nofel fod yn ddoniol,” yn ôl y cyn athro sydd wedi ennill gwobr fawr y byd llyfrau Saesneg, y Man Booker.

Howard Jacobson yw’r cynta’ i ennill y wobr gyda nofel ddigri ac fe ddywedodd y bore yma ei fod “wedi torri’r mowld”.

Mae’r awdur 58 oed, a gafodd ei eni ym Manceinion, wedi ennill £50,000 am ei nofel The Finkler Question – ei bymthegfed.

‘Eisiau ennill’

Roedd wedi bod eisiau ennill y wobr o’r dechrau, meddai, ond roedd yna deimlad cyn hyn mai dim ond un math o nofel oedd yn gallu ennill y Man Booker.

“Mae’r Man Booker wedi cydnabod y syniad o lyfr doniol,” meddai ar y rhaglen radio, Today. “Dw i’n credu y dylai pob nofel fod yn ddoniol. Os ydych chi eisiau rhywbeth difrifol, darllenwch farddoniaeth.”

Ffurf doniol oedd y nofel yn wreiddiol, meddai wedyn.

Llun: Howard Jacobson yn derbyn  y wobr (Gwifren PA)