Ddydd Sul fe fydd Caerdydd yn dod i stop wrth i’r hanner marathon ddod i’r ddinas am y seithfed mlynedd yn olynol.
Mae’n rhan o strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru i hybu digwyddiadau cynhenid Gymreig.
Elusen Barnardo ddechreuodd y ras yn 2003 gyda 1,500 o redwyr. Eleni bydd 15,000 yn rhedeg yr 13.2 milltir. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio bydd 20,000 o redwyr erbyn 2012.
“Mae [hanner marathon Lloyds TSB] wedi tyfu eisoes a dyna pam mae’r Llywodraeth yn rhoi ei nawdd iddo ar hyn o bryd gyda’r gobaith wrth gwrs y daw o’n ddigwyddiad o bwys,” meddai’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones.
“Ond mae hefyd yn ddigwyddiad sy’n ffitio mewn efo lot o bethau eraill, sef trio cael pobol i wneud mwy o ymarfer corff ac i fwynhau awyr iach ac i dynnu sylw at Gaerdyd ac at Gymru.
“Mae’n taro lot o fotymau a dw i’n gobeithio y caiff pawb fore os nad diwrnod llawen a hapus.”