Mae dyn wedi cael ei achub ar ôl syrthio i mewn i system garthffosiaeth a chael ei wthio gan bwysau dŵr am dros filltir.
Roedd Daniel Collins yn gweithio yn y system yn nhref Raymore, talaith Missouri, pan ddaeth ei harnais yn rhydd.
Cafodd ei achub ar ôl tua 90 munud wedi i aelod o’r gwasanaeth achub ei glywed yn galw am gymorth.
Er ei fod yn gallu siarad rhywfaint, roedd yn wan iawn, yn ôl adroddiadau lleol.
Mae mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Saint Luke’s yn Ninas Kansas – mae’n derbyn triniaeth am oerfel ac wedi cael antibiotigau gan y gallai fod wedi llyncu carthion.