Mae teulu’r llanc 17 oed o Radur a gafwyd yn farw ddoe wedi gofyn am lonydd i alaru.
Mae rhieni Rhodri Owen o Dreforgan ger Caerdydd hefyd wedi diolch i bobol am eu caredigrwydd, i’r heddlu am eu sensitifrwydd ac i ffrindiau eu mab am eu hymdrechion i chwilio amdano.
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y disgybl o Ysgol Radur ddoe ar ôl iddo fod ar goll ers rhai dyddiau. Doedd gan ei rieni ddim syniad pam ei fod wedi diflannu.
“Rydyn ni wedi tynnu nerth mawr o garedigrwydd pawb,” medden nhw. “Rydyn ni hefyd eisiau diolch i’r cyfryngau am eu cymorth ond byddem yn awr yn hoffi amser i gael galaru’n breifat.”
Llun: Rhodri Owen