Mae Brian Flynn wedi dweud mai fe yw’r dyn i arwain tîm pêl-droed Cymru yn llawn amser, er gwaethaf y golled drom o 4-1 yn erbyn y Swistir neithiwr.
Dyma’r ail golled mewn dwy gêm ers iddo gymryd yr awenau tros dro oddi wrth John Toshack, a ymddiswyddodd fis diwethaf.
Er nad oes gan y tîm cenedlaethol unrhyw obaith i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2012, mae Brian Flynn yn dweud ei fod eisiau’r swydd barhaol “fwy nag erioed.”
Dywedodd ei fod wedi mwynhau gweithio gyda’r chwaraewyr a’u bod wedi gwneud eu gorau, Roedd yn teimlo y gallai “gael mwy allan ohonyn nhw”.
“Mae mwy i ddod a fi yw’r dyn i’r swydd,” meddai ar ôl y gêm. “Does genna i ddim amheuon ynglŷn â fy nghymwysterau.”
Cyfweliadau
Cyfaddefodd Brian Flynn nad yw dwy golled wedi cynyddu ei obeithion.
Dywedodd nad yw’n siŵr ynglŷn â’r amserlen ar gyfer dewis rheolwr llawn amser, ond ei fod wedi cael ar ddeall y byddai rhestr fer yn cael ei chreu ac y byddai cyfweliadau.
Mae adolygiad o’r gêm yn erbyn y Swistir yma.