Mae canran y bobol sy’n cyfadde’u bod yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru wedi treblu o fewn blwyddyn.
Erbyn hyn, yn ôl cymdeithas foduro’r RAC, mae mwy na chwarter gyrwyr bellach yn cyfadde’u bod yn ateb galwadau ar ffôn symudol a 31% yn tecstio.
Roedd mwy na hanner y gyrwyr a gafodd eu holi yn yr arolwg yn dweud eu bod yn tynnu eu llygaid oddi ar yr hewl i weld pwy sy’n galw ac ychydig llai yn edrych i weld pwy sy’n tecstio.
Mae un o bob pump hyd yn oed yn edrych i weld pwy sy’n anfon negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook.
Pryder mawr
“Mae’n achos o bryder mawr bod y defnydd o ffonau symudol ar gyfer tecstio a galw wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwetha’,” meddai llefarydd ar ran yr RAC.
“Mae hefyd yn achos pryder fod pobol yn cyfadde’u bod yn defnyddio’u ffonau ar gyfer pob math o gyfryngau cymdeithasol wrth yrru.”
Y ffigurau
• Mae 28% o yrwyr yn dweud eu bod yn ateb galwadau wrth yrru – o’i gymharu ag 8% llynedd.
• Mae 31% yn cyfadde’u bod yn tecstio – o’i gymharu ag 11%.
• Mae bron hanner y gyrwyr yn dweud nad yw eu sylw’n cael ei dynnu wrth ddelio â galwadau.
• Roedd yr RAC wedi holi 1,150 o yrwyr.
(Llun – Gwifren PA)