Mae Bwrdd Iechyd lleol wedi cael ei feirniadu am anfon claf canser ar daith ddiangen mewn tacsi ac am fethu â chynnig gofal iawn iddo ar y ffordd.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall, wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda edrych eto ar ei bolisïau yn sgil yr achos ac i ymddiheuro i’r teulu.

Ond ar Radio Wales, fe ddywedodd bod y problemau’n codi mewn ardaloedd eraill hefyd wrth i bolisïau fethu â chael eu diweddaru.

Dim nyrs

Yn ôl adroddiad yr Ombwdsmon, roedd dyn a oedd yn ddifrifol wael gyda chanser wedi cael ei anfon mewn tacsi ar daith 80 milltir o Ysbyty Bronglais Aberystwyth i Ysbyty Treforys Abertawe, heb nyrs i roi ocsigen iddo ar y ffordd.

Yn ôl arbenigwyr meddygol, roedd hi’n amheus a ddylai’r dyn fod wedi cael ei anfon o gwbl ac, ar ôl cyrraedd, roedd yn rhy wael i dderbyn triniaeth. Fe fu farw’n fuan wedyn.

Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda sy’n gyfrifol am wasanaethau iechyd yn yr hen Ddyfed.

Llun: Ysbyty Bronglais lle dechreuodd y daith