Fe allai Cymru golli cymaint â 52,000 o swyddi oherwydd y toriadau mewn gwario cyhoeddus, meddai un o gwmnïau cyfrifwyr mwya’r byd.
Fe fyddai hynny’n golygu bod mwy na phedwar o bob can gweithiwr yn colli eu gwaith, wrth i’r toriadau effeithio hefyd ar y sector preifat.
Dim ond Gogledd Iwerddon fydd yn diodde’n waeth na Chymru, meddai Price Waterhouse Cooper, sy’n dweud y bydd bron filiwn o swyddi’n mynd trwy wledydd Prydain i gyd.
Yr adroddiad
Maen PWC wedi defnyddio ffigurau’r Llywodraeth ei hun am effaith uniongyrchol y toriadau mewn gwario cyhoeddus – ar swyddi cyhoeddus ac ar y sector preifat.
Fe allai colli cytundebau i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r sector cyhoeddus arwain at gwymp o £46 biliwn yng nghynnyrch y sector preifat erbyn 2014-15.
Ond mae PWC yn dweud y gallai busnesau preifat ennill rhywfaint hefyd, oherwydd rhagor o hyblygrwydd mewn cyflogau a thelerau gwaith a gosod mwy o wasanaethau cyhoeddus yn nwylo cwmnïau preifat.
Yr ymateb – ‘annheg ar Gymru’
Eisoes, fe ymatebodd gwleidyddion ac undebwyr yn chwyrn i’r ffigurau. Yn ôl Plaid Cymru, maen nhw’n dangos y bydd y toriadau’n cael effaith annheg ar Gymru.
“Mae’r ffigyrau yn dangos yn glir effaith agwedd torri a llosgi llywodraeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.
“Mae’n amlwg bod gan lywodraeth San Steffan lawer mwy o ddiddordeb mewn tawelu dinas Llundain – ystyriaeth eilradd yw swyddi go iawn yng Nghymru.”
Galw am ailfeddwl
Roedd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unsain yn galw ar y Llywodraeth i ailfeddwl am y toriadau.
“Sut all taflu bron filiwn o bobol ar y dôl helpu i gael y wlad allan o’r coch? Mae pob swydd sy’n cael ei cholli yn drychineb.
“A bydd rhifau mor anferth yn troi’n dreth barhaol ar y trethdalwyr sy’n weddill, wrth dalu am y bil budd-daliadau.
“Yn y diwedd, mi fydd gyda ni drefi sy’n ddiffeithwch, yn arbennig yn y gogledd, gyda chenhedlaeth gyfan yn methu â chael gwaith.”
Y ffigurau – Cymru yw’r ail waethaf
• Mae Price Waterhouse Cooper yn amcangyfri’ y bydd 943,000 o swyddi’n cael eu colli trwy wledydd Prydain – 3.4% o’r holl swyddi.
• Yng Ngogledd Iwerddon, maen nhw’n rhagweld y bydd y raddfa’n 5.2% a 4.3% yng Nghymru.
• Y llefydd eraill sy’n dioddef waethaf yw’r Alban a Gogledd-ddwyrain Lloegr – yn ôl PWC, maen nhw i gyd yn ardaloedd sy’n dibynnu’n drwm ar y gwasanaethau cyhoeddus.
• Yn Llundain, dim ond 3.1% o’r swyddi sy’n debyg o fynd.