Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi rhybuddio ei Gabinet fod yna ddyddiau caled o’u blaenau nhw, wythnos cyn i’r llywodraeth ddatgelu pwy fydd yn dioddef o’u toriadau ariannol.
Ddydd Mercher nesaf fe fydd y Canghellor George Osborne yn datgelu tua £83 biliwn mewn toriadau yn ei Adolygiad Gwario Cynhwysfawr. Y nod yw dileu’r diffyg ariannol erbyn 2015.
Mae wedi gofyn i bron i bob un o adrannau Whitehall roi ffigurau am dorri 25% a 40% o’u cyllidebau. Fe fydd yr adrannau amddiffyn ac addysg yn torri llai na hynny, a’r gwasanaeth iechyd yn osgoi’r fwyell yn gyfan gwbl.
‘Ffordd anodd, ond yr unig un’
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth dywedodd David Cameron eu bod nhw wedi dewis y “ffordd anodd” ond mai’r toriadau ariannol oedd yr unig fodd o achub economi Prydain.
Ychwanegodd y byddai unrhyw ymgais i leddfu ar y toriadau ariannol yn gwneud niwed parhaol i economi Gwledydd Prydain.
“Dim ond gwaethygu y bydd pethau os ydyn ni’n osgoi’r toriadau neu’n eu gohirio nhw,” meddai David Cameron.
“Does yr un garreg heb ei throi a does yr un darn o wastraff wedi osgoi ein meicrosgop. Rydym ni wedi cymryd y penderfyniadau anodd.
“Os ydyn ni’n dod at ein gilydd i ddatrys problem y ddyled heddiw, mewn ychydig flynyddoedd fe fydd pawb yn cael eu gwobrwyo.”
Llafur yn rhybuddio
Mae’r blaid Lafur wedi rhybuddio bod llywodraeth y glymblaid yn San Steffan yn bwrw ymlaen yn gyda’r toriadau yn rhy fuan, cyn i’r sector breifat ddechrau creu swyddi newydd.
Dywedodd canghellor newydd yr wrthblaid, Alan Johnson, y byddai’r toriadau yn taro’r tlawd yn galetach nag neb arall.
(Llun: David Cameron – PA)