Mae’r mwynwyr o Chile sydd wedi bod yn sownd o dan y ddaear ers 69 diwrnod wedi dechrau cyrraedd yr wyneb.
Daeth y mwynwr cyntaf, Florencio Avalos, 31, i’r golwg yn gwisgo het galed a sbectol haul arbennig i amddiffyn ei lygaid rhag goleuadau llachar yr achubwyr.
Cofleidiodd ei fab saith oed, Bairo, a’i wraig, ac arlywydd Chile Sebastian Pinera, wrth i’r dorf gymeradwyo. Roedd Florencio Avalos a’r mwynwyr eraill wedi treulio deufis yn ddwfn o dan ddaear – yr amser hiraf y mae unrhyw un wedi ei dreulio o dan ddaear a byw.
Dewiswyd Florencio Avalos i ddod i’r wyneb gyntaf am mai ef oedd y mwyaf iach. Cafodd ei dynnu 2,047 troedfedd i’r wyneb mewn cawell metal cul, am tua 3.10am yn amser Cymru.
A’r ail …
Yn ddiweddarach daeth yr ail fwynwr, Mario Sepulveda, i’r wyneb. Mae disgwyl iddi gymryd hyd at 36 awr i achub pob un o’r dynion.
Bydd pob taith i’r wyneb yn cymryd tua 20 munud ac mae’r achubwyr yn dweud y byddan nhw’n gallu dod ag un mwynwr i’r wyneb bob awr.
Y stori
Mae’r mwynwyr wedi bod yn gaeth o dan ddaear ers 5 Awst pan gwympodd 700,000 tunnell o graig gan eu caethiwo yng ngwaelodion y mwynglawdd.
“Fydd hyn ddim yn dod i ben tan y bydd y 33 yn rhydd,” meddai Sebastian Pinera. “Gobeithio y bydd y mwynwyr yma’n ysbrydoli Chile, ac yn dangos bod y wlad yma’n gallu gwneud pethau anhygoel.”
Y mwynwr olaf i gyrraedd yr wyneb fydd y fforman, Luis Urzua, sy’n cael ei gydnabod yn arweinydd y dynion yn ystod y 17 diwrnod cyn i’r achubwyr ddod o hyd iddyn nhw.