Y Swistir 4 – 1 Cymru

Er gwaethaf perfformiad ymosodol da gan ddynion Brian Flynn, colli oedd hanes Cymru yn Basel heno.

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 55 oed, roedd Flynn yn gobeithio ail danio ymgyrch Ewro 2012 ei wlad, gan sicrhau swydd barhaol iddo fel rheolwr.

Er gwaethaf dechrau gwael y Swistir i’r ymgyrch, roedd hi wastad yn mynd i fod yn dalcen caled i’r rheolwr dros dro, gydag un ar ddeg o chwaraewyr yn eisiau am resymau amrywiol.

4 newid i Gymru

Er hynny, gyda roedd golwg ymosodol i’r tîm wrth i Flynn wneud pedwar newid i’r tîm a gollodd i Fwlgaria nos Wener.

Cafodd Darcy Blake ac Andy King gyfle i ddechrau eu gemau cyntaf dros Gymru, tra bod Simon Church yn dechrau yn yr ymosod, ac Andrew Crofts yng nghanol y cae. Roedd Ashley Williams hefyd nôl yn ei safle gorau yng nghalon yr amddiffyn.

Llun: Tîm Cymru gyda phedwar newid yn edrych yn hyderus cyn y gêm (Nick Potts / Gwifren PA)

Fe ddechreuodd Cymru’n dda gan edrych i ymosod o’r cychwyn cyntaf, ond o fewn wyth munud roedden nhw ar ei hôl hi.

Roedd yr amddiffyn yn flêr wrth i’r Swistir daro pêl uchel i fyny’r cae. Arbedodd Hennessey’n dda o’r ergyd gyntaf ond y tîm cartref oedd gyflymaf i ymateb a peniodd Valentin Stocker i’r rhwyd.

Bois ifanc yn dangos calon

Gallai’r siom gynnar yn hawdd iawn fod wedi torri calonnau’r Cymry ifanc, ond er tegwch, roedden nhw nôl yn gyfartal bedair munud yn ddiweddarach.

Daeth y gôl o unlle. Enillodd Crofts dacl galed yng nghanol y cae ac adlamodd y bêl i Gareth Bale oedd yn gwbl rydd a ddim yn camsefyll. Dangosodd Bale ei hyder trwy ergydio ar draws y golwr ac i mewn i’r rhwyd.

Llun: Gareth Bale yn dathlu ei gôl mewn modd cyfarwydd (Nich Potts / Gwifren PA)

Roedd Cymru’n agos i sgorio bum munud yn ddiweddarach. Arweiniodd gwaith da rhwng Bale a Danny Collins ar yr asgell chwith at gic cornel i’r ymwelwyr. Bale gymerodd y gic a cododd James Collins i ennill y peniad a’i chyfeirio am y gôl ond fe arbedodd y golwr yn wych.

Fe fanteisiodd Simon Church ar gamgymeriad yn yr amddiffyn funudau wedyn – curodd ei ddyn ond aeth ei ergyd dros y trawst.

Gôl yn erbyn llif y chwarae

Roedd Cymru’n rheoli erbyn hyn ond wedi 21 munud fe sgoriodd y Swistir yn gwbl yn erbyn llif y chwarae. Methodd Darcy Blake a chlirio dan bwysau ar ochr cwrt y Cymry ac fe laniodd y bêl wrth droed Marco Streller a oedd yn lwcus wrth i’w ergyd fynd oddi-ar ochr allan ei droed a bownsio heibio i Hennessey yn y gôl.

Creodd David Vaughan gyfle da i Church wedi 26 munud gyda phas alluog trwy’r amddiffyn. Daeth golwr y Swistir oddi-ar ei linell yn gyflym a rhoi digon o bwysau ar Church i olygu mai i ochr allanol y rhwyd yn unig aeth ei ergyd.

Ddwy funud yn ddiweddarach daeth cyfle arall i’r tîm cartref wrth i Streller achosi trafferthion i Gymru. Aeth heibio i James Collins a throi i ergydio ond llithrodd Williams o flaen yr ergyd yn wych i flocio’r ergyd.

Roedd yn amlwg fod y Swistir yn targedu Gareth Bale, a dangoswyd y cerdyn melyn i ail chwaraewr am drosedd yn ei erbyn wedi 34 o funudau.

Funudau’n ddiweddarach daeth cyfle arall i Gymru wedi tafliad hir i’r cwrt gan Bale – adlamodd y bêl nôl a mlaen cyn glanio wrth droed Danny Collins ac ergydiodd dros y trawst.

Dechrau’r ail hanner fel y cyntaf

Er i’r Swistir bwyso am y munud cyntaf, dechreuodd Cymru rheoli’n fuan yn yr ail hanner a daeth eu cyfle cyntaf wedi pum munud.

Fe gadwodd yr ymwelwyr y bêl gan adeiladu’n amyneddgar. Newidiodd Vaughan gyfeiriad y chwarae gan symud y bêl o’r chwith i’r dde a ffeindio Darcy Blake. Croesodd yntau’n dda i’r canol ble’r oedd King i benio, ond dros y trawst aeth ei ymdrech.

Funud yn ddiweddarach roedd cyfle i’r tîm cartref wrth i Danny Collins adael i’r bêl fownsio yn y gornel. Daeth y croesiad i’r postyn pellaf lle’r oedd Blake yn sefyll yn stond wrth i Stocker ruthro mewn i’r cwrt a phenio’n bwerus tua’r gôl. Yn lwcus i Blake, arbedodd Hennessey’n wych.

Cymru’n dal i reoli

Penderfynodd Brian Flynn ei bod yn bryd gwneud newid, a daeth Christian Ribeiro i’r maes yn lle Blake oedd wedi edrych yn fregus ers yr hanner.

Roedd Cymru’n dal i chwarae’n dda ac yn cadw’r bêl yn effeithiol. Ar yr asgell chwith oedd y bygythiad mwyaf, gyda Vaughan a Bale yn cyfuno’n dda ond ddim cweit yn gallu creu cyfle clir.

Bu bron i’r Swistir sgorio trydedd wedi 62 munud wrth i gic sâl gan Hennessey lanio wrth draed Streller, ond aeth ei ergyd ar draws y gôl a heibio i’r postyn.

Gyda Chymru’n dal i ymosod ar bob cyfle daeth dau hanner cyfle – Bale oedd y crëwr i’r ddau. Croesodd asgellwr Spurs yn dda i Church yn y postyn blaen am y cyntaf ond roedd yr ongl yn rhy dynn i ergyd ymosodwr Reading.

Daeth yr ail funudau’n ddiweddarach wrth i rediad Bale o hanner ei hun arwain at ddryswch yng nghwrt y Swistir – peniodd King yn ôl ar draws y gôl ac roedd Bale ond y dim a manteisio, ond llwyddodd y tîm cartref i glirio rhywsut.

Diweddglo creulon

Gyda chwarter awr yn weddill roedd yn bryd i Flynn wneud newid arall a daeth Morison i’r cae yn lle Edwards oedd wedi rhedeg yn ddiflino trwy’r nos.

Wrth i Gymru bwyso, roedd peryg i’r Swistir wrthymosod, ac felly ddaeth y drydedd gôl i’r tîm cartref gyda naw munud yn weddill.

Roedd tri ymosodwr yn rhydd yng nghwrt y Cymry a’r Swistir yn edrych yn sicr o sgorio ond arbedodd Hennessy’n dda eto o ergyd Ziegler. Yn anffodus glaniodd y bêl i Barnetta a disgynnodd hwnnw i’r llawr yn rhwydd iawn dan bwysau Ribeiro – cic o’r smotyn amheus ond rhwydodd Inler yn gyfforddus.

Daeth cyfle gorau’r gêm i Church yn fuan wedyn, ond aeth ei ergyd dros y trawst cyn i’r Cymry ildio gôl greulon arall. Gwnaeth yr eilydd Derdiyok rediad da a chroesi i Stocker oedd yn rhydd yn y postyn pellaf, a sgoriodd yntau’n hawdd i’r rhwyd wag.

Llun: Y siom yn amlwg ar wynebau’r Cymry ar ddiwedd y gêm tra bo’r Swistir yn dathlu (Nick Potts / Gwifren PA)

Roedd 4-1 yn sgôr annheg wedi perfformiad canmoladwy gan y Cymry, ond annheg neu beidio mae’n eu gadael nhw ar waelod eu grŵp ac â dim gobaith o gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2012.

Cymru: Hennessey, Blake (Ribeiro), James Collins, Williams, Danny Collins, Crofts, Edwards (Morison), King, Bale, Vaughan (MacDonald), Church
Eilyddion na ddefnyddiwyd: Cornell, Morgan, Taylor, MacDonald, Doble

Swistir: Benaglio, Lichtsteiner, Ziegler, Von Bergen, Grichting, Schwegler, Barnetta, Inler, Stoc