Mae Cymru yn colli o 2-1 ar yr hanner yn erbyn y Swistir.
Roedd Flynn wedi gweud pedwar newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Bwlgaria nos Wener, gyda Darcy Blake ac Andy King yn dechrau eu gemau cyntaf i Gymru, tra bod Simon Church yn dechrau yn yr ymosod, ac Andrew Crofts yng nghanol y cae.
Dechrau’n dda
Roedd yr amddiffyn yn flêr wrth i’r Swistir daro pêl uchel i fyny’r cae. Arbedodd Hennessey’n dda o’r ergyd gyntaf ond y tîm cartref oedd gyflymaf i ymateb a peniodd Valentin Stocker i’r rhwyd.
Gallai’r Cymry’n hawdd iawn fod wedi digalonni ond chwarae teg iddyn nhw roedden nhw nôl yn gyfartal bedair munud yn ddiweddarach.
Cymru’n gyfartal
Daeth y gôl o unlle. Enillodd Crofts dacl galed yng nghanol y cae ac adlamodd y bêl i Gareth Bale oedd yn gwbl rydd a ddim yn camsefyll. Mae Bale yn llawn hyder ar hyn o bryd ac fe gymerodd ei gyfle’n hyderus gan ergydio ar draws y golwr ac i mewn i’r rhwyd.
Roedd Cymru’n agos i sgorio bum munud yn ddiweddarach. Arweiniodd gwaith da rhwng Bale a Danny Collins ar yr asgell chwith at gic cornel i’r ymwelwyr. Bale gymerodd y gic a cododd James Collins i ennill y peniad a’i gwyro tua’r gôl. Yn anffodus i Collins fe arbedodd y golwr yn wych.
Fe fanteisiodd Simon Church ar gamgymeriad yn yr amddiffyn funudau wedyn – curodd ei ddyn ond aeth ei ergyd dros y trawst.
Gôl yn erbyn llif y chwarae
Roedd Cymru’n rheoli erbyn hyn ond wedi 21 munud fe sgoriodd y Swistir yn gwbl yn erbyn llif y chwarae. Methodd Darcy Blake a chlirio dan bwysau ar ochr cwrt y Cymry ac fe laniodd y bêl wrth droed Marco Streller a oedd yn lwcus wrth i’w ergyd fynd oddi-ar ochr ei droed a bownsio heibio i Hennessey yn y gôl.
Creodd David Vaughan gyfle da i Church wedi 26 munud gyda phas alluog trwy’r amddiffyn. Daeth golwr y Swistir oddi-ar ei linell yn gyflym a rhoi digon o bwysau ar Church i olygu mai i ochr allanol y rhwyd yn unig aeth ei ergyd.
Ddwy funud yn ddiweddarach daeth cyfle arall i’r tîm cartref wrth i Streller achosi trafferthion i Gymru. Aeth heibio i James Collins a throi i ergydio ond llithrodd Williams o flaen yr ergyd yn wych i flocio’r ergyd.
Roedd yn amlwg fod y Swistir yn targedu Gareth Bale, a dangoswyd y cerdyn melyn i ail chwaraewr am drosedd yn ei erbyn wedi 34 o funudau.
Funudau’n ddiweddarach daeth cyfle arall i Gymru wedi tafliad hir i’r cwrt gan Bale – adlamodd y bêl nôl a mlaen cyn glanio wrth droed Danny Collins a ergydiodd dros y trawst.