Mae mwy na 40 o bobol wedi marw yn yr Wcrain, ar ôl i fws gael ei daro gan drên.
Yn ôl adroddiadau, roedd gyrrwr y bws wedi ceisio gyrru’r cerbyd dros groesfan, er bod seiren yn canu i rybuddio bod trên ar y ffordd.
Cafodd 10 arall anafiadau difrifol yn y ddamwain, a ddigwyddodd y tu allan i dref Marhanets yn rhanbarth Dnipropetrov.
Iawndal
Yn ôl yr adroddiadau, mae Prif Weinidog yr Wcrain, Mykola Azarov, eisoes wedi ymateb drwy ddweud y bydd teuluoedd y dioddefwyr yn derbyn £8,000 o iawndal.
Ac mae wedi gorchymyn y dylai gatiau awtomatig gael eu gosod ar bob croesfan drên yn y wlad.
Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r teithwyr ar y bws yn teithio i’r gwaith o Marhanets i ddinas gyfagos Nikopol.
Y cefndir
Mae’n debyg hefyd bod damweiniau ar y ffyrdd ac ar y rheilffordd yn yr Wcrain yn gyffredin, yn sgil diffyg gofal o’r ffyrdd a cherbydau, yn ogystal â thuedd gan yrwyr i anwybyddu rheolau’r ffordd fawr.
Llun: Map o’r Wcrain yn dangos yr ardal (Steschke – Trwydded GNU)