Mae Ysgrifennydd Cymru’n hawlio ei bod hi wedi sicrhau dyfodol rhywfaint o’r swyddi yn Swyddfa Basports Casnewydd – ond mae’r undeb sy’n cynrychioli’r gweithwyr yno yn wfftio ati.
Maen nhw’n dweud nad oes dim newydd yn yr wybodaeth a’i bod hi’n ceisio taflu llwch i lygaid pobol.
Fe ddaeth datganiad Ysgrifennydd Cymru ar ôl cyfarfod gyda phennaeth y gwasanaeth ac un o weinidogion yn y Swyddfa Gartref.
Mae Cheryl Gillan yn dweud ei bod wedi cael addewid y bydd “hyd at 45” o swyddi’n cael eu diogelu, mewn swyddfa newydd i ddelio gyda’r cyhoedd.
Ond fe fydd yr ymgynghori’n parhau ynglŷn â chau’r swyddfa ranbarthol, lle mae 300 yn gweithio. Cyn hyn, roedd Cheryl Gillan wedi mynnu nad oedd penderfyniad terfynol wedi’i wneud.
Llythyr
Mae llythyr gan y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, yn sôn am rhwng 30 a 45 o swydd yn aros yng Nghasnewydd, gyda chwe swydd arall o staff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasport yn symud o Lundain i Gasnewydd.
Dyw’r wybodaeth ddim yn newydd, meddai llefarydd ar ran undeb y PCS – roedd pennaeth y gwasanaeth, Sarah Rapson, wedi dweud ddoe y byddai yna swyddfa gyhoeddus yn aros yn y ddinas.
Dim ond swyddfa fechan fydd yng Nghasnewydd o hyn ymlaen, meddai’r undeb – gwasanaeth cownter a dim mwy.
Yn ôl Cheryl Gillan, fe fydd y swyddfa newydd yn golygu bod pobol Cymru’n cael yr un gwasanaeth ag sydd ar gael ar hyn o bryd a bod hynny’n gyfartal â’r gwasanaeth sydd i’w gael yn yr Alban.
Llun: Cheryl Gillan (Swyddfa Cymru)