Fe lwyddodd heddlu yn Lloegr i chwalu cylch o bobol sy’n cael eu hamau o fasnachu plant o gymuned y Roma yn Romania.

Roedd 28 o blant wedi eu cymryd i ofal ar ôl cyfres o gyrchoedd ar 16 o gyfeiriadau yn ardal Ilford yn nwyrain Llundain.

Y gred yw bod arweinwyr gangiau’n smyglo plant i mewn i’r Deyrnas Unedig ac wedyn yn eu trin fel caethweision.

Mae’n ymddangos fod plant yn cael eu gwerthu a’u gorfodi i droseddu – yn 2006, roedd yna gynnydd anferth o ddwyn ar y strydoedd gan blant o Romania.

Cafodd tri o bobol eu harestio am ymosod ar blant a’u hesgeuluso a phedwar eu harestio am droseddau budd-dal.

Cyrch ar y cyd

Roedd yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng heddlu yng ngwledydd Prydain a heddlu yn Romania – ym mis Ebrill, fe gafodd 26 o bobol eu harestio yn y wlad yn Nwyrain Ewrop.

Maen nhw’n wynebu cyhuddiadau o werthu 181 o blant ac o fod yn aelodau o rwydwaith o droseddwyr a chael gwared ar arian anonest. Roedd y cyfan yn dod o ardal Tandarei yn ne-ddwyrain Romania.

“Mae gangiau, a hyd yn oed eu rhieni eu hunain, yn cymryd mantais ar y plant yma,” meddai’r Prif Arolygydd Colin Carswell ar ran yr heddlu. “Mae gwerthu ac ecsploetio plant er mwyn eu gorfodi i droseddu yn ymosodiad difrifol ar eu hawliau dynol.”

Llun: Gorsaf Ilford (Suni60902 CCA3.0)