Mae peryg y byddai codi ffioedd prifysgol yn Lloegr yn costio £70 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru o fewn pum mlynedd, meddai’r Gweinidog Addysg.
Fe fyddai £55 miliwn o hwnnw’n mynd i brifysgolion tros Glawdd Offa i helpu talu am yr 16,000 o fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yno.
Fydd Cymru ddim yn gallu fforddio i sybsideiddio’r system addysg uwch yn Lloegr, meddai Leighton Andrews, felly mae’n debygol iawn y bydd rhaid cael newid yn y drefn yng Nghymru hefyd.
Mwy o gydweithio
Ond mae Cymru’n debyg o gymryd trywydd gwahanol i Loegr ac fe addawodd y Gweinidog y byddai’n chwilio am ffordd o warchod y gefnogaeth i addysg uwch – fe rybuddiodd eto y gallai hynny olygu mwy o uno a chydweithio o fewn y sector.
Roedd y Gweinidog Addysg yn ymateb i adroddiad ar addysg uwch yn Lloegr gan yr Arglwydd Browne – mae hwnnw wedi argymell codi’r ffioedd ar fyfyrwyr a thorri’r grant gan Lywodraeth i brifysgolion.
Mae’n sôn am isafswm o £6,000 a chael gwared ar y sybsidi cyhoeddus i bopeth ond cyrsiau sy’n cael blaenoriaeth.
Yn ôl Leighton Andrews, fe fydd hynny’n arwain at drafferthion i nifer o brifysgolion a llai o geisiadau gan bobol ifanc o deuluoedd tlawd.
Seilio ar y farchnad
“Mae arolwg yr Arglwydd Browne yn symud y baich ymhellach oddi ar y wladwriaeth i’r myfyriwr gradd,” meddai Leighton Andrews wrth y Cynulliad heddiw.
“Bydd hynny, yn ein barn ni, yn arwain at system sy’n bennaf wedi ei seilio ar y farchnad lle bydd sefydliadau’n gynyddol yn cystadlu ar sail cost, nid safon,” meddai.
“Allwn ni ddim gadael cyfartaledd cyfle, clymau cymunedol cryf a threftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyfoethog yn nwylo’r farchnad. All y wladwriaeth ddim gwadu ei chyfrifoldeb i ymyrryd i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys ac i greu cydlynu cymunedol.”
Llun: Leighton Andrews