Mae streiciau mawr wedi digwydd yn Ffrainc heddiw gan effeithio ar feysydd awyr, trafnidiaeth gyhoeddus, ysgolion a’r gwasanaeth post.
Gwrthwynebu ymgais gan lywodraeth y wlad i godi’r oedran ymddeol o 60 oed i 62 y mae’r streicwyr, ac mae undebau wedi trefnu streiciau am gyfnod amhenodol.
Mae hyn wedi peri ofnau y gallai’r gweithredu diwydiannol bara am ddyddiau a hyd yn oed wythnosau.
Mae disgwyl y bydd Senedd y wlad yn derbyn y mesur ar gyfer y newidiadau erbyn diwedd yr wythnos.
‘Dim dewis’ meddai’r Llywodraeth
Ac mae Llywodraeth Ffrainc yn dweud nad oes dewis ond eu derbyn yn sgil diffyg yn y pwrs cyhoeddus ynghyd ag economi sy’n araf yn adfer.
Fe gu gweithwyr purfeydd olew hefyd yn streicio heddiw, ac mae undebau wedi rhybuddio y gallai hyn arwain at brinder mewn tanwydd.
Fe fu protestio yn erbyn y newidiadau arfaethedig y mis diwethaf hefyd, ac mae adroddiadau bod o leiaf filiwn o bobol wedi cymryd rhan.
Llun: Y streiciau yn Ffrainc (AP Photo)