Fe sicrhaodd Bont eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor ddydd Sadwrn gan guro Rhosgoch ar Barc Pantyfedwen.

Llwyddodd Bont i beidio ag ildio gôl am y tro cyntaf eleni hefyd mewn gêm a gafodd ei dylanwadu arni gan y gwynt cryf ym Mhontrhydfendigaid. Roedd y canlyniad hyd yn oed yn fwy nodedig o ystyried rhai o’r chwaraewyr dylanwadol oedd yn eisiau i’r tîm cartref, gan gynnwys Glyndŵr Hughes, Sion Meredith, Dewi Sion Evans, Andrew Gilbert a chapten y clwb, Trystan Jones.

Perfformiad tîm

Ifan Jones Evans oedd yr arwr yn sgorio’r ddwy gôl i Bont, mewn beth oedd yn berfformiad tîm gwych.

Daeth y gyntaf yn gynnar yn y gêm yn dilyn gwaith gwych gan y cefnwr Ian Lee lawr yr asgell dde. Croesodd Lee i’r postyn pellaf ble’r oedd Evans yn cyrraedd i daro foli i’r rhwyd. Fe greodd y ddau dîm nifer o fân gyfleoedd cyn yr hanner, ond 1-0 oedd y sgôr ar yr hanner.

Gwynt cryf yn dylanwadu

Bellach yn chwarae yn erbyn y gwynt cryf, fe gynyddodd y pwysau ar y tîm cartref wrth i Rhosgoch geisio dod a’r sgôr yn gyfartal. Er hynny, llwyddodd amddiffyn y tîm cartref i gyfyngu eu hymwelwyr i ergydion o bellter a chroesiadau dwfn oedd fwy na heb yn mynd allan am giciau gôl oherwydd y gwynt cryf.

Seliodd Bont y fuddugoliaeth gyda rhyw 20 munud yn weddill. Gwnaeth Andre Marsh rediad gwych i mewn i gwrt Rhosgoch, a gallai fod wedi mynd i’r llawr wrth i amddiffynnwr ei faglu ond arhosodd ar ei draed. Pan ddaeth ail drosedd amlwg fe ddisgynnodd i’r llawr gan ennill cic o’r smotyn i’w dîm. Camodd Evans at y smotyn a gyrru’r gôl geidwad i’r cyfeiriad anghywir i’w gwneud yn 2-0.

Rhosgoch yn methu dod nôl

Aeth Rhosgoch ati i geisio dod nôl mewn i’r gêm ond roedd Bont yn soled yn y cefn. Daeth cyfle gorau’r ymwelwyr wrth i un o’r chwaraewyr canol cae guro dau ddyn a ffeindio’i hun yn rhydd o flaen gôl, ond arbedodd Trevor Jenkins yn wych i Bont.

Canlyniad da i Bont felly, ond mae’r dynion mewn oren yn aros yn ail o waelod y gynghrair gyda gemau wrth gefn. Mae Rhosgoch yn dal i fod yn bedwerydd gyda Ceri, Aber-miwl a Thregaron uwch eu pen.

Llun: Ifan Jones Evans a sgoriodd ddwy i Bont