Fe glywodd y cwest i ymosodiad terfysgol Gorffennaf 7 2005 bod y ffrwydradau ar drenau tanddaear Llundain wedi achosi anhrefn.

Doedd camerâu cylch cyfyng ddim yn gweithio, roedd gormod o bwysau ar systemau ffôn, roedd yna ansicrwydd am gyfeiriad o leia’ un o’r trenau ac, mewn dau achos, roedd achubwyr wedi mynd i’r llefydd anghywir.

Bron dri chwarter awr wedi’r ymosodiadau mewn tair gorsaf, roedd rhai o staff yr Underground yn dal i gredu mai problem bŵer oedd yn gyfrifol, nid ymosodiad terfysgol.

Tanio ffrwydron

Roedd tri o’r ymosodwyr wedi llwyddo i danio eu ffrwydron ar y trenau; fe fethodd y pedwerydd ond, yn lle hynny, fe ffrwydrodd fom ar fws yn Sgwâr Tavistock.

Fe glywodd y cwest gan fargyfreithiwr bod yr ymosodiad yn dangos “cieidd-dra didrugaredd” ac wedi achosi “sioc, anhapusrwydd ac arswyd” i deuluoedd y 52 a fu farw.

Fe fu farw’r pedwar bomiwr yn yr ymosodiadau hefyd – Mohammed Sidique Khan, Shehzad Tanweer, Jermaine Lindsay and Hasib Hussain – ond fe fydd y cwest i’w marwolaeth nhw’n cael ei gynnal eto.

Fe glywodd y Crwner, y Foneddiges Ustus Hallett, bod gan yr ymosodwyr fomiau llai yn barod i’w taflu at yr heddlu os oedden nhw’n cael eu hatal.

Llun: Y gwasanaethau brys ger y fan lle ffrwydrodd y bws (Francis Tyers – Trwydded GNU)