Fe fu farw un o gantoresau opera enwocaf yr ugeinfed ganrif, Joan Sutherland, yn ei chartref yn y Swistir ddoe, yn 83 oed, yn ôl ei theulu.
Mewn gyrfa deugain mlynedd, roedd hi’n cael ei chydnabod yn benodol am ei chanu yn operâu Handel a chyfansoddwyr Eidalaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd hi wedi ymddeol ers 20 mlynedd ond yn parhau i ymddangos yn gyhoeddus gan gynnwys beirniadu cystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd. Roedd yn noddwr i’r gystadleuaeth.
La Stupenda
Cafodd yr enw “La Stupenda” gan rai o’i dilynwyr, ac roedd Luciano Pavarotti, y Tenor Eidalaidd byd enwog, wedi dweud mai hi oedd y “soprano colouratura” gorau erioed.
Mae’r term yn cyfeirio at ehangder ac ystwythder ei llais wrth ganu triliau a chanu darnau yn gyflym.
Fe’i ganed yn Awstralia, a dechreuodd ganu pan oedd yn blentyn, drwy ddynwared ei mam, Muriel Alston Sutherland, a oedd hefyd yn soprano ddawnus.
Llun: Joan Sutherland (Rainer Leiss – Trwydded GNU)