Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn dal i ymchwilio i achos dyn busnes ifanc sy’n cael ei gyhuddo o fyw’n foethus ar gefn cwmni adeiladu yn Sir Benfro.

Fe aeth y cwmni hwnnw i ddwylo’r derbynwyr gyda dyledion mawr, gan gynnwys arian i gyflenwyr lleol a gweithwyr yn ardal Arberth.

Fe fydd y rhaglen deledu Taro Naw heno yn canolbwyntio ar hanes Gareth Darbyshire o Lancashire a gafodd sylw gan bapur dydd Sul a gwefannau ac sydd wedi cael sylw yng ngwasg y diwydiant adeiladu.

Dyledion

Roedd papur lleol y Western Telegraph wedi tynnu sylw at y dyledion ym mis Mai.

Yr honiad yw ei fod wedi prynu cwmni TPT Construction am £7 miliwn pan oedd yn fyfyriwr cyfraith 19 oed ym Mhrifysgol Nottingham ac wedi byw’n fras tra oedd y cwmni’n mynd i ddyledion.

Mae Gareth Darbyshire ei hun wedi bygwth cyfraith yn erbyn y papur newydd gan ddweud fod yr honiadau’n enllibus.

Galw’r heddlu

Yn ôl cyfnodolion yn y maes adeiladu, cyn-berchnogion y cwmni oedd wedi galw’r heddlu gan ddweud nad oedden nhw wedi derbyn hanner y pris prynu gan y myfyriwr, sydd hefyd yn ynad heddwch.

Ond roedd pobol fusnes eraill hefyd heb eu talu ac, yn ôl yr adroddiadau, fe fu rhai o weithwyr y cwmni’n gweithio’n ddi-dâl am gyfnod.

Cyn ei werthu TPT oedd yn gyfrifol am rai o’r cytundebau adeiladu cyhoeddus mwya’ amlwg yn y Gorllewin, gan gynnwys Pafiliwn Pontrhydfendigaid.

Dyweeodd yr Heddlu: “Rydyn ni wedi derbyn honiadau o dwyll ac wrthi’n pwyso a mesur yr wybodaeth.”

Llun: Y wefan Anna Raccoon yn datgelu’r stori am Gareth Darbyshire