Owain Schiavone sy’n dweud bod ganddo gydymdeimlad â hyfforddwr dros-dro Cymru…
Druan o Brian Flynn. Mae’n bur debygol bod ganddo un gêmnos fory i brofi fod ganddo’r gallu i droi pethau rownd i Gymru a chael ei benodi’n reolwr parhaol ar ei wlad. Bellach, mae’n rhaid iddo geisio gwneud hynny heb nifer o chwaraewyr pwysig.
O’m safbwynt i, mae’n reit amlwg lle aeth pethau o’i le yn erbyn Bwlgaria nos Wener. Fe gymerodd Flynn gambl trwy roi chwaraewyr mewn safleoedd anghyfarwydd, ac yn anffodus wnaeth y gambl ddim gweithio.
Mae Ashley Williams wedi chwarae yng nghanol cae i Gymru o’r blaen – yn y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Alban llynedd os dwi’n cofio’n iawn, gan edrych yn ddigon cyfforddus yn y safle hefyd. Ond mae Williams yn cael ei ystyried fel un o amddiffynwyr canol gorau’r Bencampwriaeth yn Lleogr, ac nid canol cae ydy ei safle gorau o bell ffordd. Yn sicr, nid canol cae ydy’r lle gorau i Williams pan mai Sam Ricketts ydy’r opsiwn arall i chwarae yn ei le yng nghanol yr amddiffyn!
Roedd Williams a Ricketts ill dau’n edrych ar goll yn llwyr nos Wener. Ildiodd Williams y bêl ar sawl achlysur, a chamddealltwriaeth rhwng Ricketts a James Collins yng nghanol yr amddiffyn oedd ar fai am y gôl a gipiodd y gêm i Fwlgaria.
Dwi’n hanner deall penderfyniad Flynn i wneud hyn. Roedd yn meddwl y byddai Williams yn gwneud job dda iddo’n gwarchod yr amddiffyn trwy eistedd yng nghanol cae, tra bod Ricketts yn ychwanegu mwy o gyflymder i ganol yr amddiffyn. Yn anffodus, wnaeth yr un o’r ddau berfformio ac yn waeth na hynny fe gawsom nhw effaith negyddol ar chwaraewyr eraill.
Un arall oedd mewn safle anghyfarwydd oedd Joe Ledley, yn dechrau ar yr asgell dde ac yntau’n chwaraewr troed chwith. Fel arfer byddai Ledley yng nghanol y cae, ond gan fod Williams wedi ei ddewis yno, roedd rhaid i Flynn ffeindio safle gwahanol i Ledley…a dim ond un oedd yn wag. Roedd Ledley’n dawel am y mwyafrif o’r awr y bu ar y cae, heblaw am ddeg munud ar ddiwedd yr hanner cyntaf pryd y newidiodd safleoedd gyda Gareth Bale a chreu problemau ar y chwith.
Dwi’n cytuno gyda’r egwyddor o ddewis yr 11 chwaraewr gorau i ddechrau’r gêm, ond does bosib y byddai wedi gwneud mwy o synnwyr i chwarae Williams yng nghanol yr amddiffyn, Ledley yng nghanol y cae a Ricketts, sy’n gefnwr ymosodol fel rheol, ar yr asgell dde?
Dyna ni, wnaeth yr arbrawf ddim gweithio ac mae’n rhaid symud ymlaen i’r gêm nesaf yn erbyn y Swistir.
Ar ôl i bawb fod yn pregethu ynglŷn â bod RHAID ennill yn erbyn Bwlgaria, does dim angen dweud bod wir RHAID cael rhywbeth yn erbyn y Swistir nos fory.
Y drafferth i Flynn ydy bod hyd yn oed llai o chwaraewyr ganddo i ddewis ohonyn nhw oddi-cartref yn Basel.
Fe gafodd Chris Gunter gerdyn coch a Ricketts ei ail gerdyn melyn o’r ymgyrch nos Wener, sy’n golygu fod y ddau wedi eu gwahardd o’r gêm. Ar ben hyn, mae Joe Ledley wedi aros adref oherwydd genedigaeth ei blentyn cyntaf, tra bod Hal Robson-Kanu wedi anafu ei linyn y gar ar ôl dod i’r cae yn erbyn Bwlgaria. Os nad oedd hynny’n ddigon gwael, mae ‘na hefyd ychydig o amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Ashley Williams.
Mae hi’n sefyllfa ddigon cyfarwydd i Gymru’n anffodus, ac mae’n siŵr bod Flynn yn gofyn i’w hun os ydy o wir eisiau’r swydd o reoli’r tîm yn barhaol.
Mae bron yn sicr y bydd yna o leiaf un cap newydd yn yr amddiffyn, gydag unai Darcy Blake neu Adam Matthews yn dechrau fel cefnwr de. Os na fydd Williams yn ffit i chwarae yna mae’n bosib iawn y bydd y ddau’n dechrau, tra bod Craig Morgan wedi ei alw fyny hefyd i roi opsiwn arall yn y canol.
O ran canol y cae, David Vaughan a Gareth Bale oedd dau chwaraewr gorau Cymru nos Wener, felly mae’r ochr chwith yn weddol sicr.
Doedd David Edwards o Wolves ddim ar ei orau nos Wener, ond fe fydd yn dechrau mae’n siŵr, tra bod rhaid i Flynn ddewis Andy King o Leicester yn fy marn i. Mae King wedi sgorio pedair gôl eleni mewn 10 gêm i’w glwb, ac mae angen goliau ar Gymru.
Does gan Flynn ddim i’w golli trwy ddechrau gyda dau yn yr ymosod chwaith – fe allai’r Morison, sy’n fawr, cryf a da yn yr awyr ffurfio partneriaeth ddigon effeithiol gyda Church, sy’n gyflym a phrysur.
Problem fwyaf Cymru nos yfory, fel yn eu dwy gêm ddiwethaf, fydd sgorio. Mae hynny’n arbennig o wir yn erbyn tîm sy’n gryf iawn yn amddiffynnol, ond does gan Flynn ddim i’w golli trwy fynd amdani. A dweud y gwir, o ystyried y chwaraewyr sydd ganddo does ganddo fawr o ddewis ond mynd amdani!