Mae amddiffynnwr Cymru, James Collins wedi addo gwneud ei orau glas i sicrhau nad ydi ymgyrch rhagbrofol Ewro 2012 ddim yn dod i ben yn Basle nos yfory.

Fe fydd tîm Brian Flynn yn herio’r Swistir yn Stadiwm Parc St Jakob gyda’r ddau dîm yn chwilio am eu pwyntiau cyntaf yn y grŵp.

Mae Collins yn derbyn nad ydi gorffen ar frig y grŵp yn debygol erbyn hyn, ond dyw e’ ddim am roi’r gorau iddi eto.

“Yn amlwg mae’n mynd i fod yn anodd nawr i hyd yn oed sicrhau’r ail safle,” meddai James Collins.

“Does dim disgwyl i chi fynd ‘mlaen ar ôl colli’r ddwy gêm gyntaf. Felly mae’n rhaid i bawb perfformio’n well, ac fel un o chwaraewyr hynaf y garfan mae’r cyfrifoldeb arna’i.

“Mae Brian yn siomedig – roedd o wedi dod i mewn am ddwy gêm ac roedd o’n awyddus i wneud argraff, fel pawb arall.

“Mae pawb yn siomedig ar ôl colli ond mae’n rhaid i ni godi’r ysbryd ar gyfer y gêm nesaf. R’yn ni’n mynd mewn i bob gêm yn moyn ennill, ac ni fydd nos Fawrth yn
wahanol.”