Roedd y seiclwraig o Gymru, Nicole Cooke yn credu ei bod wedi perfformio’n dda yn ras ffordd Gemau’r Gymanwlad er gwaetha’r ffaith iddi fethu â chipio medal.
Fe orffennodd y Gymraes yn y bumed safle gydag Rochelle Gilmour o Awstralia yn ennill, Lizzie Armistead o Loegr yn ail a Chloe Hosking o Awstralia yn drydydd.
“Roedd yn boeth iawn a doeddwn ni heb weld y cwrs tan y lap cyntaf, felly roedd hi’n anodd iawn, ond roedd hi’r un peth i bawb,” meddai Cooke.
“Rwy’n credu fy mod i wedi gwneud yn dda. Llwyddais i gael fy hun ‘nôl i mewn i’r ras ar ôl cael fy nal mewn damwain fach a gorfod newid fy olwyn blaen.
“Wrth edrych yn ôl ar y ras, rwy’n credu fy mod i wedi treulio gormod o egni ar gwrso merch o Seland Newydd gyda chilometr a hanner yn weddill.
“Fe fyddai wedi bod yn well i mi fynd gyda’r gwibwyr gan gofio pa mor hir oedd rhan ddiwethaf y ras.
“Fe alle’n ni fod wedi gwneud pethau ychydig yn wahanol, ond rwy’n credu fy mod i wedi gwneud yn dda iawn i orffen yn y pumed safle.”