Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman, wedi ysgrifennu at berchnogion tafarn hoyw enwog yn y brifddinas yn gofyn iddyn nhw ail ystyried cau.
Cyhoeddwyd dydd Gwener bod perchnogion tafarn y Kings Cross yn ystyried ei ailddatblygu fel bwyty chwaethus.
Mae Rodney Berman wedi ysgrifennu at brif weithredwr cwmni Mitchells & Butler, Adam Fowle, yn annog y cwmni i ailystyried cau’r dafarn.
King’s Cross, ar gornel Mill Lane a Stryd Caroline, yw tafarn hoyw hynaf Cymru. Agorodd yn 1873 ac mae o wedi bod yn fan cyfarfod i’r gymuned hoyw ers 40 mlynedd.
Mae aelodau o gymuned Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol y brifddinas eisoes wedi mynegi eu siom gyda’r penderfyniad ac wedi creu ymgyrch ar Facebook yn galw am achub y dafarn.
Hyd yn hyn mae 1,000 o bobol wedi cefnogi’r ddeiseb sydd hefyd wedi ei gefnogi gan AC Canol Caerdydd, Jenny Randerson.
“Rydw i wedi ysgrifennu at Mitchells & Butler er mwyn mynegi pa mor gryf y mae pobol yn teimlo ynglŷn â Kings Cross,” meddai Rodney Berman.
“Mae Caerdydd wedi ennill enw da am amrywiaeth a chynhwysiad ac fe fyddai’n arbennig o drist pe bai pobol yn cael yr argraff nad ydi’r awdurdod lleol eisiau tafarn hoyw ynghanol prifddinas Cymru,” meddai Rodney Berman.