Dyw 25% o bobol Cymru ddim yn gallu darllen yn ddigon da a 53% ddim yn gallu cyfri yn ddigon da i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Roedd hynny o’i gymharu â 16% sydd methu darllen a 47% sydd methu cyfri yn Lloegr.
Roedd 21% o ddynion a 23% o ferched Cymru hefyd yn dweud bod eu hiechyd nhw’n “wael”, meddai’r adroddiad o’r enw ‘Pa mor deg yw Prydain?’
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod poblogaeth Cymru yn hŷn na’r Alban a Lloegr, gyda 55% o bobol dros 45 oed o’i gymharu â 53% yn yr Alban a 51% yn Lloegr.
Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, nod yr adroddiad yw tynnu sylw at y ffaith nad yw cyfran helaeth o’r boblogaeth yn cael y cyfle i wireddu eu potensial o’r cychwyn cyntaf.
“Yr her ydan ni’n ei wynebu yng Nghymru, ac ar draws Prydain, ydi nad oes gan nifer o bobol y cyfle i wireddu eu potensial a chyfrannau’n llawn at eu cymdeithas,” meddai Ann Beynon, Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.
“Y gobaith yw y bydd yr adroddiad newydd yn ei gwneud hi’n glir i bawb sut y bydd hi’n bosib gwneud Cymru yn decach.
“Fe fydd o gymorth i’r rheini sydd yn gwneud y penderfyniadau gwario ac sydd yn cynllunio gwasanaethau anhepgorol fel iechyd a gofal cymdeithasol.”
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod proffil economaidd cymdeithasol Cymru yn is na’r Alban a Lloegr. Dim ond 29% o bobol Cymru oedd mewn swyddi rheolaethol neu broffesiynol yng Nghymru o’i gymharu â 33% yn yr Alban a 35% yn Lloegr.
Roedd 33% o bobol Cymru yn gwneud swyddi caib a rhaw llaw, o’i gymharu â 32% yn yr Alban a 29% yn Lloegr.