Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau eu bod nhw wedi penodi gwraig yr Is-Ganghellor, Dr Xinyu Wu, i swydd flaenllaw yn y Brifysgol.
Datgelodd Golwg 360 dydd Gwener bod Xinyu Wu wedi dilyn ei gŵr draw i Gymru, gan gael swydd debyg i’r un oedd ganddi yn yr un brifysgol ag ef yn Iwerddon.
Fe fuodd Dr Xinyu Wu yn gweithio ym Mhrifysgol Maynooth yng Ngweriniaeth Iwerddon, ble’r oedd ei gŵr, yr Athro John Hughes, yn Llywydd cyn iddo gael ei benodi i’w swydd ym Mangor.
Mae’r swydd y bydd hi yn ei wneud, Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol, yn un sydd newydd ei chreu.
Mae’r undeb ATL wedi galw am esboniad gan ddweud eu bod angen cadarnhad ynglŷn â pham fod angen creu’r swydd a sut y cafodd hi ei llenwi.
Daw’r penodiad ar ôl cynlluniau’r llynedd i rewi pob swydd newydd, ond awgrymodd llefarydd ar ran y Brifysgol nad oedd y polisi hwnnw’n weithredol mwyach.
Mewn datganiad dywedodd y Brifysgol eu bod nhw wedi hysbysebu’r swydd o’r blaen, “yn gynharach y llynedd.”
Dr Xinyu Wu
Graddiodd Xinyu Wu o Brifysgol Wuhan yn Tsieina a Phrifysgol Ulster, a bu’n Bennaeth Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Middlesex a Chyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, ym Maynooth.
“Mae’n bleser o’r mwyaf gen i gadarnhau apwyntiad Dr Wu,” meddai’r Dirprwy i’r Is-Ganghellor, yr Athro Fergus Lowe.
“Ehangu’n rhyngwladol yw’r allwedd i ddyfodol Prifysgol Bangor a bydd sgiliau ac arbenigedd Dr Wu yn galluogi Bangor i fod yn ganolfan rhagoriaeth gydnabyddedig o amgylch y byd.
“Mae pwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol i’r Brifysgol yn hysbys, ac mae’n bleser gennym benodi i’r swydd yn dilyn hysbyseb yn gynharach y llynedd.”
Bydd Dr Wu yn dechrau’n rhan amser ym Mangor ym mis Hydref ac yn llawn amser ym mis Ionawr, 2011.
“Bydd y swydd newydd hon yn chwarae rhan sylfaenol mewn sicrhau bod Prifysgol Bangor yn cyflawni ei nod o fod yn Sefydliad Addysg Uwch gwirioneddol ryngwladol,” meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.