Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn tanau amheus yn Rhuthun dros y penwythnos, gan ddweud eu bod nhw’n credu fod yna gysylltiad rhyngddyn nhw.
Rywbryd rhwng 10.50pm a 11.20pm dydd Sadwrn, 9 Hydref, cafodd tri tân eu cynnau yn ardal Stryd Clwyd Uchaf y dref.
Cafodd yr heddlu wybod am y tân cyntaf am 11.23pm, ger yr Orsaf Dân. Roedd sied bren oedd yn gysylltiedig ag adeilad wedi ei roi ar dân. Llwyddodd y Gwasanaeth Tan i ddiffodd y fflamau cyn iddo ledaenu i’r tŷ.
Tua’r un pryd, cafodd bocs llythyrau fflat ar y stryd ei roi ar dân, gan achosi difrod sylweddol i’r drws. Yn ddiweddarach fe gafodd dillad oedd wedi eu hongian tu allan i dŷ ar y stryd eu rhoi ar dân.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw eisiau ymchwilio er mwyn ceisio dod o hyd i bwy oedd yn gyfrifol.
“Yn ffodus, fe gafodd y tanau eu diffodd cyn iddyn nhw wneud unrhyw ddifrod mawr,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Serch hynny ni ellir gor-ddweud pa mor debygol oedd hi y byddai rhywun wedi dioddef anaf difrifol ac rydw i’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 0845 6071001 neu 101, neu Daclo’r Tacle ar 0800 555 111.