Mae’n bosib bod y gweithiwr elusen, Linda Norgrove, fu farw yn Afghanistan wedi ei lladd gan grenâd a daflwyd gan filwyr o’r Unol Daleithiau, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Fe fu farw’r ddynes 36 oed, o Sutherland yn ucheldiroedd yr Alban, wrth i fyddin yr Unol Daleithiau geisio ei hachub rhag gwrthryfelwyr y Taliban, oedd wedi ei herwgipio hi.

Cyhoeddodd David Cameron y bydd ymchwiliad ar y cyd rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau yn cael ei gynnal er mwyn datrys sut y buodd hi farw dydd Gwener.

Yn ôl adroddiadau dydd Sadwrn fe fuodd hi farw wrth i‘r gwrthryfelwyr ffrwydro bom er mwyn atal milwyr yr Unol Daleithiau rhag ei hachub hi.

Cafodd Linda Norgrove ei chipio gan y Taliban yn rhanbarth Kunar ar 26 Medi. Cafodd tri pherson arall o Afghanistan eu herwgipio hefyd ond fe’i rhyddhawyd nhw yn ddiweddarach.

Roedd hi’n gweithio i gwmni o’r enw Development Alternatives Inc ar raglenni ailadeiladu sy’n cael eu hariannu gan lywodraeth America.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod penderfyniad wedi cael ei wneud i anfon milwyr i geisio ei rhyddhau ar ôl i luoedd y cynghreiriaid yn Afghanistan gael gwybodaeth ynglŷn â lleoliad Linda Norgrove.