Mae tîm rygbi saith bob ochr Cymru wedi ennill eu gêmau saith bob ochr gyntaf yn Gemau’r Gymanwlad yn Delhi, yn erbyn India a Tonga.
Fe faeddodd Cymru’r tîm cartref, India 56-7 yn eu gêm agoriadol ar ôl sgorio chwe chais, cyn mynd yn eu blaenau i guro Tonga 38-7.
India
Fe aeth Cymru ar y blaen wedi 24 eiliad gyda Kristian Phillips yn sgorio cais a Gareth Davies yn trosi.
Dyblwyd y sgôr wedi llai na thri munud ar ôl i Alex Cuthbeck groesi’r llinell gais gyda Lee Williams yn trosi.
Fe sgoriodd Lee Williams ei gais gyntaf o’r gêm i ymestyn mantais tîm Paul John cyn i Amit Lochab daro ‘nôl gyda chais i’r India.
Ond Cymru gafodd y gair olaf cyn hanner amser gydag asgellwr y Gweilch, Tom Prydie yn croesi’r llinell gais.
Fe ddechreuodd Cymru’r ail hanner yr un fath ag y gorffennodd y cyntaf gyda Prydie yn sgorio cais arall. Fe ychwanegodd Williams gais arall i’r achos, ei ail o’r gêm.
Fe sgoriodd Cymru ddwy gais arall gyda Lee Rees a Gareth Davies yn croesi’r llinell er mwyn sicrhau buddugoliaeth gadarnhaol.
Tonga
Fe sgoriodd Richie Pugh ddau gais er mwyn rhoi Cymru ar ben ffordd yn erbyn Tonga.
Roedd Cymru 19-0 ar y blaen ar ôl ceisiau gan Rees, Davies a Prydie, ond fe darodd Tonga ‘nôl ychydig cyn yr hanner amser gyda chais gan Fokoklulu Taumalolo.
Ond Cymru gafodd y gorau o’r ail hanner gyda Pugh yn sgorio cyn i Rhys Shellard ychwanegu un arall.
Ym munud olaf y gêm fe groesodd Pugh unwaith eto i sgorio chweched cais Cymru yn y gêm.
Fe fydd Cymru’n herio De Affrica yng ngêm y grŵp yn hwyrach yn y dydd.