Does neb mewn gwaith mewn bron i un o bob wyth o gartrefi Prydain, y gyfradd uchaf ymysg chwech gwlad mwyaf llewyrchus yr Undeb Ewropeaidd.
Does neb yn gweithio mewn 11.5% o gartrefi Prydain o’i gymharu gyda 10.5% yn Ffrainc, 9.2% yn yr Almaen, a dim ond 6% yn yr Iseldiroedd, yn ôl yr arolwg gan y Ganolfan Astudiaethau Polisi.
Byddai cwymp o 10% yn nifer y cartrefi lle nad oes neb yn gweithio yn ychwanegu 1% at y Cynnyrch Domestig Gros, yn ôl yr arolwg.
Mae’r ganolfan yn galw am fesurau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau diweithdra fel cosbi pobol sy’n hawlio budd-daliadau ond sydd ddim yn gwneud ymdrech i ddod o hyd i waith.
Dylai’r Llywodraeth hefyd wneud mwy i atal mewnfudwyr sydd heb sgiliau rhag dod mewn i’r wlad, meddai’r ganolfan.
Daw’r adroddiad wrth i ffigyrau newydd ddatgelu bod £135 biliwn wedi ei wario dros y 10 mlynedd diwethaf ar ddwy filiwn o bobol sy’n hawlio eu bod nhw’n rhy sâl i weithio.
“Mae gwaith yn bwysig nid yn unig i’r teuluoedd ond hefyd er mwyn cryfhau economi Prydain a rhoi hwb i’r adferiad,” meddai Jill Kirby, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Polisi.