Does dim yn fwy cyffrous na gêm ddarbi rhwng dau o ranbarthau rygbi Cymru. Mae hynny wedi bod yn arbennig o wir eisoes eleni mewn gemau angerddol a chystadleuol yn ddiweddar rhwng Gleision Caerdydd a Dreigiau Gwent, ac yna’r Scarlets yn erbyn Y Gweilch.
Wel, mae darbi Gymreig fawr arall ar y gorwel wrth i’r Gleision groesawu’r Scarlets i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 22 Hydref. Mae’r ddau ranbarth wedi cael dechrau da i’r tymor ac mae’r Gleision yn ail yng Nghynghrair Magners ar hyn o bryd, gyda’r Scarlets yn gorwedd yn bedwerydd. Bydd y ddau dîm am y gorau i gael buddugoliaeth dros y llall – buddugoliaeth a allai fynd a’r enillwyr i frig Cynghrair Magners.
Mae’n sicr i fod yn frwydr a hanner, a bydd cyfle i ddau o ddarllenwyr Golwg360.com fod yno yng nghanol cyffro’r frwydr. Mae Golwg360.com yn gweithio mewn partneriaeth â Gleision Caerdydd i gynnig pâr o docynnau i’r gêm i un enillydd lwcus.
Y cyfan sy’n rhaid i chi wneud ydy ateb y cwestiwn canlynol:
Sawl aelod o garfan bresennol y Gleision sydd wedi cynrychioli’r Llewod?
Anfonwch eich ateb, ynghyd â’ch rhif ffôn i cystadleuaeth@golwg.com erbyn hanner dydd, dydd Llun 18 Hydref 2010. Bydd enw’r enillydd lwcus yn cael ei dynnu allan o’r het ar y diwrnod hwnnw a byddwn yn cysylltu â nhw. Pob lwc!