Mae Dai Greene wedi dweud ei fod o’n hynod falch ar ôl ennill y fedal aur yn rownd derfynol y ras 400m dros y clwydi yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi.

Fe gafodd y Cymro ei wthio’n galed yn agos at ddiwedd y ras gan Louis van Zyl o Dde Affrica.

Ond fe wnaeth Greene ddigon i ddal ‘mlaen i sicrhau medal aur cyntaf Cymru o’r gemau.

“Roeddwn i’n ffyddiog iawn ar ôl yr holl rasys eleni. Efallai y bydden ni wedi teimlo’r pwysau tua deufis ‘nôl, ond erbyn hyn dw i ddim yn teimlo y galla’i golli,” meddai Dai Greene.

“Rwyf i wedi ennill popeth rydw i wedi cystadlu ynddo – Cwpan y Byd, Treialon y Deyrnas Unedig, Pencampwriaeth Timoedd a Phencampwriaeth Ewrop.

“Roedd y dorf yn wych ac roeddwn i wedi mwynhau pob eiliad. Rydw i wrth fy modd ar hyn o bryd.”

Fe ddywedodd Rhys Williams, a orffennodd yn drydydd yn y ras, ei fod yn falch o ennill medal efydd, er ei fod o wedi anelu yn uwch.

“Roedden nhw’n well na fi heddiw. Mae’n rhwystredig iawn. Fe orffennais i’r ras yn gryf, ond mae’n ras 400m ac efallai fy mod i wedi dal yn ôl gormod tan y diwedd.”