Fe sgoriodd Cymru 11 cais yn erbyn yr Alban er mwyn sicrhau’r dechrau perffaith i Gwpan Ewrop yn Glasgow.

Fe groesodd chwaraewr Warrington, Rhys Williams a chefnwr y Crusaders, Elliot Kear dair gwaith yr un er mwyn arwain Cymru at eu buddugoliaeth orau erioed yn erbyn yr Alban.

Fe drosodd Lee Briers wyth cic i Gymru ac fe sgoriodd Gareth Thomas ei ail gais i Gymru yng ngêm y gynghrair.

Fe sgoriodd Mark Lennon, Lloyd White, Jacob Emmitt a Jordan James dros Gymru hefyd tra bod Ben Fisher ac Andrew Henderson wedi sgorio dau gais yr un i’r Alban.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi mantais fawr i Gymru cyn eu gêm nesaf yn erbyn Iwerddon yr wythnos nesaf. Fe gollodd y Gwyddelod 58-24 yn erbyn y Ffrancwyr yn Avignon.

Fe fydd y tîm fydd yn ennill Cwpan Ewrop yn mynd yn eu blaenau i chwarae ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad yn erbyn Lloegr, Awstralia a Seland Newydd flwyddyn nesaf.