Mae adolygiad o effeithlonrwydd y Llywodraeth gan ddyn busnes blaenllaw wedi dod o hyd i wastraff arian “syfrdanol.”

Mae’r adroddiad gan Syr Philip Green, perchennog Topshop a Bhs, yn dweud y gallai gweinidogion ddileu llawer o wastraffu arian o wasanaethau cyhoeddus.

Mae’r adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw yn dweud nad ydi’r Llywodraeth wedi gwario yn ddoeth.

Penodwyd Philip Green gan y Prif Weinidog ym mis Awst i adolygu effeithlonrwydd y Llywodraeth, gan ganolbwyntio ar sut y mae’n gwario’r arian ar dechnoleg gwybodaeth, teithio, offer swyddfeydd, ac adeiladau.

Mae Philip Green yn dweud yn yr adroddiad nad oes yna unrhyw arweiniad ynglŷn â phrynu nwyddau a bod gwahanol adrannau wedi talu prisiau amrywiol iawn am yr un offer.

“Does yna ddim rheswm pam na ddylai’r Llywodraeth fod yr un mor effeithlon ag unrhyw fusnes da,” meddai Philip Green.

Dywedodd un o weinidogion y Swyddfa Gartref, Francis Maude bod y gwastraff yn “syfrdanol.”

“Mae’r adolygiad yn dangos nad oes yna unrhyw strategaeth glir wedi bod ynglŷn â gwneud i’r Llywodraeth weithredu’n fwy effeithlon,” meddai.

“Mae Llywodraeth yn wahanol iawn i fusnes, ond dyw hynny ddim yn golygu na ddylai weithredu mewn modd sy’n debycach i fusnes.

“Mae bob punt yr ydym ni’n gallu ei arbed o fewn y Llywodraeth yn bunt allen ni ei wario ar wasanaethau rheng flaen.”