Mae’r olaf o haul yr haf wedi diflannu ac fe fydd hi’n oerach am weddill y flwyddyn, meddai rhagolygwyr y tywydd heddiw.
Roedd Prydain wedi mwynhau penwythnos eithaf cynnes ar y cyfan, gyda’r tymheredd yn taro 20 gradd celsiws mewn rhai mannau.
Ond o heddiw ymlaen fe fydd pethau’n oeri gyda’r tymheredd yn cyrraedd 18C neu 19C ar y mwyaf, a bydd rhai mannau yn gweld rhew erbyn canol yr wythnos.
“Mae hi wedi bod yn gynnes gyda digon o heulwen dros Gymru a Lloegr,” meddai Paul Mott ar ran cwmni MeteoGroup.
“Ond fe fydd hi’n oeri dros y dyddiau nesaf a gyda’r nos fe fydd y tymheredd yn disgyn i tua 0 gradd celsiws – yr arwydd cyntaf bod y gaeaf ar ei ffordd.”