Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi gwahodd y cyhoedd i fynegi eu barn ynglŷn ag arlwy Radio Cymru.

Mae’r cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn rhan o arolwg o wasanaeth Radio Cymru, er mwyn penderfynu a oes angen gwella’r gwasanaeth.

Dywedodd y BBC y bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried safon a gwerth am arian yr orsaf radio, a pha mor “gadarn a cyraeddadwy” yw eu cynlluniau. Mae gan Radio Cymru gyllideb £12.1m bob blwyddyn.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 12 Ionawr 2011 ac adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ryw ben y flwyddyn nesaf.

Fe fydd yr arolwg hefyd yn edrych ar ddarpariaeth Radio Wales.

“Rydym eisoes yn gwybod fod gan wrandawyr ddaliadau cryf, ac yn edrych ymlaen at glywed beth sydd gan bobl i ddweud,” meddai Janet Lewis-Jones, Ymddiriedolwr Cymreig y BBC.

Gall unrhyw un sydd eisiau cyfrannu at yr arolwg fynd i www.bbc.co.uk/bbctrust/cy

Cyhoeddodd Radio Cymru ym mis Awst eu bod nhw wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sy’n gwrando ar yr orsaf yn ystod y chwe mis blaenorol.

Ond roedd cwymp ar yr un cyfnod y llynedd, gyda 10,000 yn llai yn gwrando nac ar ddiwedd ail chwarter 2009, pan oedd 171,000 yn gwrando’n wythnosol.