Ganwyd babi newydd ar 10fed eiliad 10fed awr 10 Hydref, 2010.
Doedd Niahm Bond ddim i fod i gael ei geni am wyth wythnos arall ond daeth i’r byd ddoe yn pwyso 3 pwys 7 owns yn Ysbyty Good Hope, Sutton Coldfield, yng ngorllewin canolbarth Lloegr.
“Edrychais i ar y cloc a gweld ei bod hi wedi ei geni ar ôl y degfed eiliad hefyd ac roeddwn i wedi synnu,” meddai ei mam Keelie Hearne, 20.
“Fe fydd o’n sicr yn ddyddiad i’w gofio ac hyd yn oed yn fwy arbennig gan mai hi yw fy mhlentyn cyntaf.”
Roedd sawl un wedi penderfynu priodi ddoe hefyd, oherwydd bod y rhif 10 yn cael ei ystyried yn un lwcus yn niwylliant China.
“Mae’n draddodiad Chineaidd bod y rhif 10 yn berffaith ac roedd o’n ddiwrnod perffaith i briodi. Roedd hyd yn oed y tywydd yn wych!” meddai Ngaryan Li, 18, a briododd ym Manceinion.