Mae heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ynglŷn â llanc sydd wedi mynd ar goll o ardal Treforgan, Caerdydd.

Gwelwyd Rhodri Owen, 17 oed, yn gadael ei gartref yn Nhreforgan am 5pm ar ddydd Gwener, 8 Hydref.

Roedd o’n gwisgo crys polo coch Lyle and Scott, a throwsus a trainers gwyn.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101 neu Daclo’r Tacle ar 0800 555111.