Mae cwmni alwminiwm yn Hwngari wedi ymddiheuro am y gymysgedd goch, wenwynig sydd wedi gollwng o argae eu gwaith, gan ladd saith o bobol ac effeithio ar nifer o drefi.

Fe ddywedodd Mal Rt, perchnogion y ffatri yn Ajka yng ngorllewin y wlad, eu bod yn cydymdeimlo gyda’r teuluoedd hynny sydd wedi colli perthnasau.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn barod i dalu iawndal “yn unol â’u cyfrifoldeb” am y difrod sydd wedi cael ei achosi gan y llifeiriant.

Ond mae’r problemau’n parhau gan fod twll tua 50 metr yn wal yr argae ac mae swyddogion yn credu ei bod yn anochel y bydd rhagor o’r slwj yn gollwng.

Fe chwalodd rhan o’r gronfa dydd Llun diwethaf gyda thua 35 miliwn troedfedd giwbig o’r gwastraff gwenwynig yn llifo allan.

Ofni trychineb

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn ofni y gallai’r hylif coch gwastraff o’r broses o gynhyrchu alwminiwm – achosi trychineb amgylcheddol.

Mae afonydd yn Kolontar, y dref agosaf at safle’r ffatri, eisoes wedi eu troi’n goch budr a’r holl bysgod wedi eu lladd.

Mae slwj coch hefyd wedi cyrraedd Afon Donaw – y Danube – ail afon hiraf Ewrop. Ohoni hi y daw’r rhan fwyaf o ddŵr yfed Hwngari ac mae’n llifo trwy wledydd Croatia, Serbia, Romania, Bwlgaria, Yr Wcráin, a Moldofa cyn cyrraedd y Môr Du.

Fe gafodd cwmni Mal Rt ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl, ychydig flynyddoedd ar ôl i’r drefn gomiwnyddol ddod i ben yn Hwngari.

Llun: Gweithiwr glanhau a slwj coch Hwngari (AP Photo)