Mae gyrfa Gavin Henson gyda’r Gweilch yn nes at ddod i ben ar ôl iddo ddweud eto ei fod am adael Cymru i fyw yn Llundain.

Fe ddywedodd y chwaraewr rygbi y byddai symud i brifddinas Lloegr yn well i’w deulu a’i yrfa ar ôl i’w berthynas gyda’r gantores Charlotte Church ddod i ben.

Fe ddywedodd Henson wrth gylchgrawn Hello! ei bod yn amser iddo gael “ychydig o newid”.

Ar hyn o bryd, mae’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth deledu, Strictly Come Dancing, ond mae wedi dweud ei fod eisiau ailddechrau chwarae rygbi.

“Rwy’n teimlo y bydd yn well i mi fel person symud ymlaen, ac mae popeth yn clymu at ei gilydd gan fod Charlotte a’r plant yno hefyd,” meddai Henson.

“Mae’n rhaid i mi hefyd feddwl am beth i’w wneud ar ôl gorffen chwarae rygbi. Mae yna gwpwl o bethau oddi ar y cae ac maen nhw yn Llundain.”