Wrth i weithwyr baratoi i gynnal cyfarfod protest, mae Ysgrifennydd Cymru’n dweud ei bod yn ceisio achub y swyddfa basports yng Nghasnewydd.

Fe fydd Cheryl Gillan yn cael cyfarfod gyda Phrif Weithredwr y swyddfa’n ddiweddarach yr wythnos yma ac mae’n dweud bod gobaith o hyd i atal y cau.

Yn y cyfamser, fe fydd y gweithwyr yn cynnal rali mewn gwesty yng Nghasnewydd am hanner dydd heddiw.

Ddydd Gwener y cyhoeddodd y Swyddfa Gartref eu bod yn ystyried cau’r swyddfa ranbarthol a nifer o swyddfeydd lleol y gwasanaeth – fe fyddai tua 300 o bobol yn colli eu gwaith yng Nghasnewydd.

Mae Cheryl Gillan hefyd yn dweud ei bod yn lobïo’r Swyddfa Gartref ond mae’r AS Llafur lleol, Paul Flynn, wedi ei chyhuddo o ymateb “cloff”.

Galw am ymgyrch

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi honni na chafodd Swyddfa Cymru wybod ymlaen llaw ac mae Paul Flynn yn dweud nad oes neb wedi cadarnhau’r penderfyniad wrtho yntau.

Mae wedi galw am ymgyrch ar draws Cymru i amddiffyn y swyddfa, gan awgrymu y gallai hyn fod yn ddechrau ar gyfres o benderfyniadau tebyg.

Fe ddywedodd ddoe bod y Gwasanaeth Sifil wedi ceisio cau’r swyddfa yng Nghasnewydd ddwy flynedd yn ôl ond bod y Llywodraeth Lafur ar y pryd wedi gwrthod.

Llun: Cheryl Gillan (Swyddfa Cymru)