Mae gwibwraig o Nigeria a enillodd y fedal aur yn ras 100m y menywod yng Ngêmau’r Gymanwlad wedi methu prawf cyffuriau.
Fe orffennodd Osayemi Oludamola yn ail yn y ras tu ôl i Sally Pearson o Awstralia. Ond fe gafodd Pearson ei diarddel am ddechrau’r ras yn rhy gynnar ac fe gafodd Oludamola y fedal aur.
Fe gadarnhaodd Llywydd Ffederasiwn Gêmau’r Gymanwlad, Mike Fennell, bod Osayemi Oludamola wedi cael gwybod am y canlyniad a’i bod wedi gofyn am ail brawf.
“Fe fydd ei hail brawf yn cael ei brofi heddiw cyn gwrandawiad yn hwyrach heddiw,” meddai.
Fe bwysleisiodd bod 950 o brofion cyffuriau wedi cael eu cynnal yn ystod y bencampwriaeth yn Delhi ac mai dim ond un oedd yn bositif hyd yn hyn.
Os bydd y rhedwraig o Nigeria yn colli’r fedal aur, fe fydd Natasha Mayers o St Vincent a’r Grenadines yn cael yr aur.