Mae’r Llywodraeth wedi addo parhau i geisio cael cyfiawnder i deuluoedd y plismyn milwrol a gafodd eu llofruddio yn Irac.
Mae teuluoedd y chwech – gan gynnwys yr Is-gorporal Tom Keys, 20 oed o Lanuwchllyn – wedi mynegi siom ar ôl i lys yn Baghdad benderfynu ddoe nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn dau ddyn.
Yn ôl un o’r tadau, John Miller, roedd ei fab wedi cael cam yn ystod ei fywyd a, bellach, wedi cael cam yn ei farwolaeth hefyd.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae gan yr awdurdodau yn Irac warant ar gyfer saith dyn arall ac fe fydd Llywodraeth Prydain yn parhau i bwyso am eu herlyn.
Roedd y chwech wedi cael eu lladd mewn tre’ o’r enw Majar al-Kabir yn 2003.
Plismyn yn rhoi tystiolaeth
Er gwaetha’ addewidion cynharach, doedd y teuluoedd ddim wedi cael caniatâd i fynd i’r llys ac roedd rhaid iddyn nhw ddibynnu ar adroddiadau ail law.
Dim ond plismyn Iracaidd a roddodd dystiolaeth yn y gwrandawiad dwyawr ac roedden nhw’n dweud nad oedden nhw wedi gweld y ddau ddyn ymhlith y dyrfa.
“Dyna’n union pam yr oedd angen i ni fod yno,” meddai John Miller.
Llun: Tom Keys (MoD)