Fe fydd y cwest i farwolaeth y 52 o bobol a gafodd eu lladd yn Llundain ar Orffennaf 7, 2005, yn dechrau’n ddiweddarach heddiw.
Ond mae teuluoedd eisoes yn anhapus gydag agwedd y gwasanaethau cudd, gan ofni y byddan nhw’n ceisio osgoi rhoi tystiolaeth bwysig am yr ymosodiad terfysgol.
Roedd MI5 wedi ceisio cael eu hepgor o’r cwest ac maen nhw’n debyg o ymladd i geisio cadw llawer o wybodaeth yn gudd. Y barnwr, Ustus Hallett, fydd yn penderfynu.
Rôl MI5
Rôl MI5 yw un o’r materion mwya’ i godi yn ystod y gwrandawiad – mae perthnasau eisiau gwybod pam nad oedden nhw wedi gweithredu’n gynt ar ôl gweld dau o’r pedwar bomiwr mewn cyfarfodydd gyda therfysgwyr.
Roedd hynny tua 17 mis cyn yr ymosodiad ar drenau tanddaear ac ar fws yn Llundain ond, yn ôl y gwasanaethau cudd, roedd llawer o wybodaeth o’r fath yn eu cyrraedd ar y pryd a doedd dim i dynnu sylw arbennig at Sidique Khan, 30, a Shehzad Tanweer, 22.
Fe allai canolfan awyr agored yng Nghymru fod yn rhan o’r dystiolaeth – roedd y ddau arweinydd wedi eu gweld ychydig cynt ar daith rafftio yng Nghanolfan Tryweryn ger Y Bala.
Y cwestiynau eraill
Fe fydd cwestiynau arbennig hefyd am yr ymosodiad ar y bws – fe ddigwyddodd hwnnw awr yn ddiweddarach na’r gweddill ar ôl i’r bomiwr fethu ag ymosod ar drên.
Yn ôl rhai, fe ddylai’r awdurdodau fod wedi atal holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Llundain.
Mae yna gwestiynau hefyd am y system gyfathrebu a diffyg adnoddau, am oedi tros drin rhai o’r meirwon ac am arafwch yr heddlu’n rhoi gwybod i rai perthnasau.
Roedd y cwest wedi ei ohirio tan ar ôl achos llys yn erbyn tri dyn oedd yn cael eu hamau o fod â chysylltiad â’r ymosodiad – fe gawson nhw eu clirio.
Llun: Y bws wedi’r ymosodiad (Gwifren PA)