Mae un o gyn-arweinwyr yr SNP yn cyhuddo Alex Salmond o beidio â gwneud digon i ddadlau dros annibyniaeth fel yr ateb i argyfwng ariannol yr Alban.

Yng nghynhadledd flynyddol yr SNP yn Perth yr wythnos yma, fe fydd Gordon Wilson, arweinydd y blaid yn ystod yr 1980au hyd nes i Alex Salmond gymryd drosodd yn 1990, yn dadlau bod yn rhaid gwneud llawer mwy i hyrwyddo manteision annibyniaeth.

Er y dywed ei fod yn cefnogi strategaeth llywodraeth Alex Salmond, dywed fod gweld y Bank of Scotland a’r Royal Bank of Scotland yn troi at drethdalwyr y Deyrnas Unedig am help yn gwneud i’r Albanwyr chwilio am atebion Prydeinig.

“Mae annibyniaeth wedi cael ei israddio fel ateb,” meddai Gordon Wilson.

“Mae Prydain yn wladwriaeth sy’n methu a dydw i ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli’r anawsterau y mae ynddi. Mae’n fethdalwr. Aros ar y Titanic yw parhau gyda Phrydain.”

Adnoddau naturiol

Yn ôl Gordon Wilson, rhaid i’r SNP ddadlau y byddai gan Alban annibynnol yr adnoddau naturiol i oresgyn yr argyfwng ariannol.

“Fe fydd olew yn dal i fod yn werth arian mawr am beth amser. Mae ynni o’r llanw’n ddatblygiad newydd a rhaid inni fod yn arloeswyr. Ac mae dŵr yn un arall. Mae prinder cynyddol o ddŵr ffres ledled y byd ac mae diwydiannau sy’n defnyddio dŵr am fod eisiau dod yma.”

Lleiafrif

Er bod Alex Salmond wedi addo rhoi lle canolog a blaenllaw i annibyniaeth yn ymgyrch etholiad Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf, mae’r SNP yn ddiweddar wedi penderfynu peidio â chyflwyno mesur am refferendwm ar annibyniaeth yn y senedd yma.

Mae arolygon barn yn dangos yn gyson mai lleiafrif yn unig o Albanwyr sy’n cefnogi annibyniaeth – ac yn ôl rhai o strategwyr Llafur, mae argyfwng bancio 2008 wedi lladd y momentwm am wahanu oddi wrth Brydain.

Mae’r arolygon diweddaraf yn awgrymu hefyd fod Llafur yn gyffyrddus ar y blaen i’r SNP yn yr Alban erbyn hyn.

Llun: Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban (gwifren PA)