Mae arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong Il a’i fab a’i olynydd Kim Jong Un wedi ymddangos gyda’i gilydd mewn gorymdaith filwrol anferth ym mhrifddinas y wlad heddiw.
Caiff hyn ei ddehongli fel cadarnhad o’r cyhoeddiad bythefnos yn ôl mai Kim Jong Un fydd yn olynu ei dad fel arweinydd a pharhau â’r llinach gomiwnyddol i’r drydedd genhedlaeth.
Roedd y ddau Kim i’w gweld yn sefyll ar lwyfan ar sgwâr Kim Il Sung yng nghanol Pyongyang wrth i’r milwyr a’r tanciau fynd heibio oddi tanynt i ddathlu sefydlu’r blaid sy’n llywodraethu’r wlad ers 65 mlynedd.
Y dathliadau yma – a gafodd eu dangos ar wasanaeth teledu’r wladwriaeth – oedd un o’r cyfloedd cyntaf i bobl Gogledd Korea gael golwg iawn ar eu darpar arweinydd.
Llun: Y tad a’r mab Kim Jong Il a Kim Jong Un (AP Photo/Vincent Yu)