Yn ogystal â goroesi canser, mae’r arwr pêl-droed John Hartson wedi gorfod ymladd brwydr arall hefyd – sef problem gamblo.
Mewn hunangofiant newydd, mae John Hartson yn cyfaddef y gallai ar un adeg fod yn colli £20,000 y dydd trwy gamblo.
Dywed y cyn-chwaraewr dros Gymru i’r broblem ddechrau yn ei arddegau mewn swydd fel casglwr gwydrau mewn clwb nos yn Abertawe.
Mae’n cofio gwario ei becyn pae cyntaf o bron i £40 ar beiriannau ffrwythau:
“Ro’n i’n cael yr un math o wefr wrth roi darn 10c yn y peiriant ag o’n i’n ei deimlo wrth sgorio gôl,” meddai.
Aeth y broblem allan o reolaeth yn llwyr yn ystod ei yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol, pryd y gallai golli degau o filoedd o bunnau y diwrnod – er ei fod yn cofio dod adref o ras yn Ascot yn cludo £67,000 mewn bag plastic Sainsbury.
Pan oedd ei broblem yn ei hanterth, byddai ganddo gyfrifon dirgel gyda bwcis a byddai’n eu ffonio i osod betiau o filoedd o bunnau ar y tro.
Dyledion
Yn ei lyfr, dywed John Hartson iddo gael fflachiadau fel hyn o’i fywyd blaenorol pan oedd yn lled-ymwybodol wrth dderbyn triniaeth am ganser y ceilliau yn ysbyty Singleton Abertawe y llynedd.
Yr adeg y sylweddolodd faint ei broblem tan iddo gael galwad ffôn gan un o ohebwyr y News of the World yn dweud eu bod yn deall fod ganddo ddyledion o £130,000.
Dyna pryd yr ymunodd â’r grŵp Gamblers Anonymous yn St Albans.
Mae bellach yn benderfynol fod ei ddyddiau gamblo ar ben.
“Mae arna i eisiau bod yn well person er mwyn Sarah [ei wraig], o ran edrych ar ôl fy hun a chael gwared ar y gamblo unwaith ac am byth. Mae hi’n haeddu’r gorau y gallaf ei rhoi iddi.”
Mae ei hunangofiant, Please Don’t Go: Big John’s Journey Back to Life, ar gael mewn siopau yn awr am £17.99.