Mae Pacistan wedi agor croesan allweddol rhyngddi ac Afghanistan – ddiwrnod ynghynt na’r disgwyl.

Roedd croesfan Torkham, sy’n cael ei defnyddio’n helaeth i gludo nwyddau i luoedd Nato yn Afghanistan, wedi cau ers 30 Medi.

Mae’n ymddangos fod Pacistan wedi gwneud hynny mewn protest yn erbyn y ffaith i ddau o filwyr y wlad gael eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr gan luoedd America.

Roedd Pacistan wedi cyhoeddi ddoe y byddai’n ailagor y groesfan, ac er nad oedd disgwyl i hyn ddigwydd tan yfory, cadarnhaodd un o swyddogion tollau’r groesfan fod y cerbydau cyntaf wedi croesi i Afghanistan am hanner dydd amser lleol heddiw.

Ychwanegodd y swyddog fod awdurdodau’n brysur yn ceisio clirio’r cannoedd o gerbydau sydd wedi cael eu dal yn ôl gerllaw. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r cerbydau yma wedi bod yn dod yn dargedau hawdd i’r Taliban, gyda llawer o dryciau cludo tanwydd yn cael eu rhoi ar dân.

Ymosodiad arall o’r awyr

Mae o leiaf chwech o bobl eraill wedi cael eu lladd yng ngogledd-orllewin Pacistan mewn ymosodiad arall o’r awyr gan America.

Cafodd taflegryn ei danio o awyren di-griw at dŷ mewn gwersyll i ffoaduriaid yn ardal gogledd Waziristan neithiwr.

Er nad oes cadarnhad o ran pwy a gafodd eu lladd, credir mai’r targed oedd aelodau o grŵp milwriaethus o dan arweiniad Hafiz Gul Bahadur sy’n cyflawni ymosodiadau mynych yn erbyn lluoedd tramor yn Afghanistan.

Llun: Tanceri Nato’n croesi’r ffin i Afghanistan yn Torkham heddiw (AP Photo/Rahmat Gul)